Ffleminiaid
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Germaniaid, Ewropeaid Gorllewinol |
Enw brodorol | Vlamingen |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg, Ffrainc, Yr Iseldiroedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffleminiaid (Fflemeg/Iseldireg: de Vlamingen neu het Vlaamse volk "gwerin Fflandrys"; hefyd yn yr Oesoedd Canol: Fflemisiaid, Fflemiswyr, Fflandryswyr a Fflandrysiaid) yw'r bobl sy'n ffurfio'r mwyafrif o'r Belgiaid, gyda chymuned o tua 6 miliwn yn Fflandrys, rhan ogleddol Gwlad Belg.
Fodd bynnag, nid yw tiriogaeth y Fflandrys bresennol yn cyfateb i'r hen Swydd Flandrys, a gynhwysai rannu o ogledd Ffrainc a'r Iseldiroedd ond heb gynnwys canolbarth a dwyrain y Fflandrys bresennol, a oedd yn rhan o arglwyddiaethau eraill yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, yn bennaf Dugiaeth Brabant a Swydd Loon.
Mae statws y Ffleminiaid a Fflandrys o fewn gwladwriaeth Gwlad Belg yn gwestiwn gwleidyddol dadleuol, gyda nifer o Ffleminiaid yn pwyso am ffurf o hunanlywodraeth.
Dros y canrifoedd mae'r Ffleminiaid wedi ymfudo i sawl gwlad ac ardal yn Ewrop a'r Byd Newydd. Daethant i Loegr yn y 12g a chawsant eu defnyddio gan frenhinoedd Lloegr fel arf yn erbyn Cymry'r de trwy sefydlu trefedigaeth yn ne Penfro a drawsnewidiodd iaith a diwylliant y rhan honno o Gymru (gweler Ffleminiaid de Penfro).