Crai Khabarovsk
Math | krai of Russia |
---|---|
Prifddinas | Khabarovsk |
Poblogaeth | 1,301,127 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Dmitry Demeshin |
Cylchfa amser | Vladivostok Time, Asia/Vladivostok |
Gefeilldref/i | Hyōgo |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 787,633 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Ymreolaethol Iddewig, Oblast Amur, Gweriniaeth Sakha, Oblast Magadan, Oblast Sakhalin, Crai Primorsky, Heilongjiang |
Cyfesurynnau | 54.8°N 136.83°E |
RU-KHA | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Legislative Duma of Khabarovsk Krai |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Khabarovsk Krai |
Pennaeth y Llywodraeth | Dmitry Demeshin |
Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Khabarovsk (Rwseg: Хаба́ровский край, Khabarovsky kray; 'Khabarovsk Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Khabarovsk. Poblogaeth: 1,343,869 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell. Mae'r rhan fwyaf o'r crai yn gorwedd yn rhan isaf basn Afon Amur yn Nwyrain Pell Rwsia gyda rhan sylweddol arall ar arfordir mynyddog Môr Okhotsk, sy'n fraich o'r Cefnfor Tawel. Mae'n ffinio gyda Oblast Magadan yn y gogledd, Gweriniaeth Sakha ac Oblast Amur yn y gorllewin, gyda'r Oblast Ymreolaethol Iddewig, Gweriniaeth Pobl Tsieina, a Crai Primorsky yn y de, a glan Môr Okhotsk yn y dwyrain. Ceir tirwedd taiga a twndra yn y gogledd a fforestydd coed collddail yn y de.
Sefydlwyd Crai Khabarovsk ar 20 Hydref, 1938, yn yr hen Undeb Sofietaidd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y crai