
Ioga ~ Iechyd ~ Lles
Gall ymagweddau Holistig at eich iechyd a lles cyffredinol fod o gymorth mawr drwy gydol y cyfnodau o adferiad a’r siwrnau iachau. Yn enwedig cyflyrau iechyd meddwl sydd yn cynnwys camddefnyddio sylweddau ac alcohol ac anhwylderau cronig eraill. O ddadwenwyno i leihau straen a gwella lles meddyliol a chorfforol, mae'r dull cyfannol yn chwarae rhan hanfodol i adennill cydbwysedd personol ac i reoli eich iechyd cyffredinol.
Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, gall Hafod Holistics gynnig pecynnau iechyd a lles holistic a hunanofal wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion i helpu eich iechyd a lles cyffredinol. Dewiswch o becynnau tylino, adweitheg, aromatherapi, ioga neu lles.
Pan ‘dwi’n mynychu Ioga, dwi’n ymlacio mwy ac yn cysgu'n well. Mae fy nghryfder yn gwella ac yn gyffredinol dwi dan lai o straen.
Mae’r sesiynau wedi fy helpu yn ystod cyfnod o brofedigaeth. Teimlad o les ac adnabod emosiynau sy'n codi o ddydd i ddydd a gallu bod yn bresennol gyda'r emosiynau hynny.
Wedi cael triniaeth aromatherapi ar fy nghefn, ysgwyddau a phen. Teimlo wedi llwyr ymlacio, ysgwyddau a'r gwddw yn fwy ystwyth ac y cysgu'n well ers imi ei dderbyn. Diolch Elen. Hyfryd.