[go: up one dir, main page]

top of page
Croeso i Hafod Holistics

Gall ymagweddau Holistig at eich iechyd a lles cyffredinol fod o gymorth mawr drwy gydol y cyfnodau o adferiad a’r siwrnau iachau. Yn enwedig cyflyrau iechyd meddwl sydd yn cynnwys camddefnyddio sylweddau ac alcohol ac anhwylderau cronig eraill. O ddadwenwyno i leihau straen a gwella lles meddyliol a chorfforol, mae'r dull cyfannol yn chwarae rhan hanfodol i adennill cydbwysedd personol ac i reoli eich iechyd cyffredinol.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, gall Hafod Holistics gynnig pecynnau iechyd a lles holistic a hunanofal wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion i helpu eich iechyd a lles cyffredinol. Dewiswch o becynnau tylino, adweitheg, aromatherapi, ioga neu lles.

Llun o ddwylo yn gafael mewn blodyn
Llun o driniaethau aromatherapi
Triniaethau

O aromatherapi i adweitheg a thylino, mae gennym becynnau wedi'u teilwra'n arbennig ar eich cyfer chi.

Elen, Hafod Holistic yn gwneud ioga
Ioga

O lefel ddechreuol i raglenni dwys, mae gennym becyn ioga yn arbennig ar eich cyfer chi.

Rhaglenni a Phecynnau

Mae Hafod Holistics yn cynnig ystod o becynnau a rhaglenni arbenigol o gwrs Adfer Holistic 8 wythnos a phecynnau ioga i becynnau hunanofal i’r rhai sy’n mynd drwy’r menopos.

Llun o driniaeth holistic gan Hafod Holistics
Yr haul yn disgreirio drwy ganghenau'r coed
Cysylltwch gyda Hafod Holistics

Diolch am eich neges!

CWSMERIAID HAPUS
Yoga
Ioga

Pan ‘dwi’n mynychu Ioga, dwi’n ymlacio mwy ac yn cysgu'n well. Mae fy nghryfder yn gwella ac yn gyffredinol dwi dan lai o straen.

Rock in Sand
Lles

Mae’r sesiynau wedi fy helpu yn ystod cyfnod o brofedigaeth. Teimlad o les ac adnabod emosiynau sy'n codi o ddydd i ddydd a gallu bod yn bresennol gyda'r emosiynau hynny.

Balancing Rocks
Aromatherapi

Wedi cael triniaeth aromatherapi ar fy nghefn, ysgwyddau a phen. Teimlo wedi llwyr ymlacio, ysgwyddau a'r gwddw yn fwy ystwyth ac y cysgu'n well ers imi ei dderbyn. Diolch Elen. Hyfryd.

bottom of page