Blwyddyn naid
Gelwir blwyddyn sy'n cynnwys y dydd 29 Chwefror yn flwyddyn naid.
Enghraifft o'r canlynol | uned amser, math o flwyddyn |
---|---|
Math | blwyddyn galendr |
Y gwrthwyneb | blwyddyn gyffredin |
Rhan o | Calendr Iŵl, Calendr Gregori |
Hyd | 366 diwrnod, 8,784 awr, 527,040 munud, 31,622,400 ±2 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Esboniad
golyguDewiswyd y blynyddoedd sy'n rhanadwy gan 4 i fod yn flynyddoedd naid, heblaw am y blynyddoedd sy'n rhanadwy gan 100 a heb fod yn rhanadwy gan 400. Mae'r rheol hwn yn rhoi 97 blynyddoedd naid pob 400 mlynedd, hynny yw blynyddoedd ag iddynt gyfartaledd o 365.2425 dydd yng Nghalendr Gregori. Gan mai gwir hyd y flwyddyn yw 365.2422 dydd rhaid ychwanegu 1 diwrnod bob yn 3,319.8 blwyddyn at y calendr.