İznik
Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw İznik. Ei hen enw oedd Nicea (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gristnogol, Cyngor Cyntaf Nicea ac Ail Gyngor Nicea, a rhoddodd y ddinas ei henw i Gredo Nicea.
Math | district of Turkey, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 43,330, 44,236, 44,102 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Spandau, Khulo, Tutin, Pithiviers, Talas, Jingdezhen |
Nawddsant | Saint Darius |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bursa |
Gwlad | Twrci |
Arwynebedd | 753 km² |
Gerllaw | Lake İznik |
Cyfesurynnau | 40.4289°N 29.7194°E |
Cod post | 16x |
Sefydlwyd y ddinas yn 310 CC gan Antigonos I Monophthalmos. Rhwng 1204 a 1261, Nicea oedd prifddinas Ymerodraeth Nicea, a ffurfiwyd pan ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd wedi i ddinas Caergystennin gael ei chipio gan y croesgadwyr yn 1204. Yn 1261 llwyddodd Ymerodraeth Nicea i gipio Caergystennin yn ôl, ac adferwyd yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Saif y ddinas ar ochr ddwyreniniol Llyn İznik, ac fe'i hamgylchynir gan furiau 10 m o uchder, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae'r boblogaeth tua 15,000.
Pobl enwog
golygu- Hipparchus (2 CC), seryddwr, mathemategydd a daearyddwr